Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 9 Mai 2013 i’w hateb ar 14 Mai 2013

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

 

1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella’r gofal iechyd sy’n cael ei ddarparu yng ngorllewin Cymru?OAQ(4)1052(FM)

 

2. Peter Black (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am argaeledd cyffuriau priodol ar gyfer afiechydon prin?OAQ(4)1049(FM)

 

3. Russell George (Sir Drefaldwyn):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y Gwasanaeth Cludo Cleifion mewn Achosion nad ydynt yn rhai Brys? OAQ(4)1057(FM)

 

4. Elin Jones (Ceredigion): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisïau Llywodraeth Cymru ar ynni gwynt? OAQ(4)1053(FM)W

 

5. Lynne Neagle (Torfaen):Sut y mae Llywodraeth Cymru yn annog pobl yn Nhorfaen i gymryd rhan mewn chwaraeon? OAQ(4)1061(FM)

6. Andrew RT Davies (Canol De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am waith yr uned gyflawni dros y chwe mis diwethaf?OAQ(4)1063(FM)

 

7. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am oblygiadau rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU ar Gymru?OAQ(4)1055(FM)

 

8. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru):Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer adeiladu tai fforddiadwy yng Ngogledd Cymru?OAQ(4)1065(FM)

 

9. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynlluniau arfaethedig i ad-drefnu gwasanaethau gofal iechyd ledled de Cymru, sef Rhaglen De Cymru?  OAQ(4)1051(FM)

 

10. Ken Skates (De Clwyd):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi gofalwyr maeth yng Nghymru? OAQ(4)1060(FM)

 

11. Keith Davies (Llanelli):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd i adfywio’r iaith Gymraeg?OAQ(4)1067(FM)W

 

12. Janet Finch-Saunders (Aberconwy):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gwasanaeth iechyd meddwl sy’n cael ei ddarparu yng ngogledd Cymru?OAQ(4)1059(FM)

 

13. Sandy Mewies (Delyn):A yw Llywodraeth Cymru wedi asesu goblygiadau posibl trafod cytundeb masnach rydd rhwng UDA a’r Undeb Ewropeaidd ar Gymru? OAQ(4)1056(FM)

 

14. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth i fusnesau bach yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?OAQ(4)1058(FM)

 

15. Ann Jones (Dyffryn Clwyd):Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau amseroedd aros ar gyfer gwasanaeth sgrinio ar gyfer retinopathi diabetig?  OAQ(4)1050(FM)